Cyngor Cymuned Ganllwyd
Mae gan Gyngor Cymuned Ganllwyd boblogaeth o tua 230 ac mae 129 ar y Gofrestr o Etholwyr (01.12.2016). Mae Ward Cymuned Ganllwyd yn ffinio â rhai Trawsfynydd, Llanelltyd a Llanfachreth.
Mae gan Gyngor Cymuned Ganllwyd saith aelod etholig. Mae Cadeirydd ac Is-gadeirydd yn cael eu hethol bob blwyddyn. Gwahoddir Cynghorydd Sir yr ardal i bob cyfarfod.
Mae’r Cynghorwyr Cymunedol yn cael eu hethol bob pedair blynedd. Bydd yr etholiad nesaf yn 2026. Mae'r Cynghorwyr presennol yn aelodau o’r Cyngor Cymuned tan fis Mai 2026.
Cyllid: Mae gweithgareddau Cynghorau Cymuned yn cael eu hariannu drwy Dreth y Cyngor. Mae pob Cyngor Cymuned yn penderfynu faint i'w godi i dalu am ei wariant.
Nid oes unrhyw un o'r Cynghorwyr yn derbyn tâl am eu gwasanaeth; mae eu gwasanaeth i'w cymuned yn hollol wirfoddol.
EN 
